Instruments
Ensembles
Opera
Compositeurs
Artistes

Paroles: Gruff Rhys. Yr Atal Genhedlaeth. Rhagluniaeth Ysgafn.


O dyro i mi Ragluniaeth Ysgafn Rhagluniaeth ysgafn Rhagluniaeth ysgafn Mor ysgafn a?r awel fwyn A phan ddaw?r amser i gael fy marnu O! Cym i ystyriaeth fy nghyfraniad i?r achosion da, Ac er yr holl deithio, Y llwgr-wobrwyo, Y cyffuriau caled, Y merched o bedwar ban Dw i wedi hen flino Ar fy mhwdr areithio, Yr holl ddanteithio, Fy mrad o iaith y nef, Y rhegi cyhoeddus, Y lluniau anweddus, Fy nghabledd o flaen y groes, Yr hunan-dosturi, Y cwrw a?r miri, Fy ofer-ymffrostio, Tra?n rhostio yn y gwledydd poeth. A phan ddaw?r cyfweliad, Erfynaf am fynediad, Drwy lidiart y nefoedd I?r cyfoeth ar yr ochr draw.A chym i ystyriaeth, Er gwaethaf fy mhechodau, Fy holl rinweddau, Sy?n rhifo ar un llaw. Ond beth bynnag dy farn, Erfynaf am: Ragluniaeth ysgafn, Rhagluniaeth ysgafn Rhagluniaeth ysgafn Mor ysgafn a phluen dryw